Cofnodion y Grŵp Trawsbleidiol ar Fenywod yn yr Economi

Ddydd Mercher, 23 Hydref 2013

Yn bresennol:

Aelodau Parhaol y Cynulliad Cenedlaethol

Christine Chapman AC, Llafur (Cadeirydd)

Jocelyn Davies AC, Plaid Cymru

Janet Finch-Saunders AC, Ceidwadwyr

Eluned Parrott AC, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Cynulliad Cenedlaethol

Laura Dunn, swyddfa Rosemary Butler

Victoria Evans, swyddfa Christine Chapman

Ian Johnson, swyddfa Leanne Wood

Osian Lewis, swyddfa Alun Ffred Jones a Llyr Huws Gruffydd

 

Aelodau Allanol

Dr. Rachel Bowen, Rheolwr Polisi Cymru, Ffederasiwn Busnesau Bach

Joy Kent, Prif Weithredwr, Chwarae Teg

Christine O’Byrne, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus, Chwarae Teg (Ysgrifennydd)

Helen Reed, Swyddog Cymorth Polisi, Chwarae Teg

Shirley Rogers, Cyfarwyddwr Rhanbarthol, Gyrfa Cymru

 

Ymddiheuriadau:

Dr. Alison Parken, Uwch Gymrawd Ymchwil, Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd

Helen Humphrey, Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru

Dr. Victoria Winckler, Cyfarwyddwr, Sefydliad Bevan 

 

1.

Croeso a Chyflwyniadau

 

 

Croesawodd Joy Kent, Prif Weithredwr Chwarae Teg, bawb i’r cyfarfod a diolchodd iddynt am ddod i gyfarfod agoriadol Grŵp Trawsbleidiol newydd y Cynulliad Cenedlaethol ar Fenywod yn yr Economi.  

 

2.

Penodi i Swyddi Allweddol - Ethol Cadeirydd ac Ysgrifennydd  

 

 

Etholwyd Christine Chapman AC yn Gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol a phwysleisiodd y potensial a fyddai gan y grŵp o ran cynyddu cyfle cyfartal i fenywod yng Nghymru. Pwysleisiodd y Cadeirydd fod angen i’r grŵp ddatblygu syniadau ffres ynglŷn â pham bod cydraddoldeb i fenywod yn yr economi wedi bod mor araf yng Nghymru yn hanesyddol.

 

 

Dywedodd y Cadeirydd ei bod eisoes wedi cyflwyno cwestiwn i’r Prif Weinidog ar 22 Hydref ynglŷn â’r ffaith nad yw sgiliau a doniau menywod yn cael eu defnyddio’n ddigonol a’r angen i wneud mwy o ddefnydd o’r adnodd hwn os yw menywod, sef dros hanner poblogaeth Cymru, i gyfrannu at economi sy’n ffynnu yng Nghymru.

 

 

Cytunwyd y byddai Chwarae Teg, fel partner allanol, yn cydgysylltu gweithgareddau’r grŵp ac etholwyd Christine O’Byrne, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus, yn Ysgrifennydd.

 

3.

Cefndir a Gosod y cyd-destun  

 

 

Yn dilyn lansiad adroddiad ymchwil llwyddiannus Chwarae Teg, Lle’r Fenyw (astudiaeth o rolau menywod yn economi Cymru) yng Nghymru, y DU ac Ewrop yn gynharach eleni, teimlwyd mai Grŵp Trawsbleidiol fyddai’r modd mwyaf effeithiol o ddatblygu llawer o’r materion a nodwyd yn y gwaith ymchwil.   Crynhodd yr Ysgrifennydd rai o brif ganfyddiadau’r gwaith ymchwil:

 

 

§    Roedd anghydraddoldeb y tu allan i’r gweithle, yn parhau i lywio anghydraddoldeb yn y gweithle

§    Roedd stereoteipiau pwerus yn parhau ynghylch swyddi sy’n addas ar gyfer dynion a menywod

§    Cyflogaeth oedd y drefn arferol ar gyfer menywod ond nid yw cydraddoldeb wedi’i gyflawni hyd yma 

§    Roedd mwy o fenywod yn gweithio, ond yn gweithio’n rhan-amser.

§    Roedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn parhau

§    O ran sgiliau a chynnydd, mae merched yn perfformio’n well na bechgyn yn yr ysgol ond roedd mwy o fenywod wedi cymhwyso hyd at lefel 4 yng Nghymru, ond roedd mwy o fenywod mewn swyddi sgiliau a chyflog is

§    Roedd menywod yn parhau i gael eu hystyried fel gofalwyr yn gyntaf a gweithwyr cyflogedig yn ail, ac er bod gweithio hyblyg wedi cynyddu, roedd diffyg gofal plant fforddiadwy yn parhau i gael ei ystyried fel y prif rwystr i gyflogaeth llawn amser.

§    Yn arbennig, nid oedd gan 25% o’r menywod a holwyd fynediad i’w hawliau statudol ac nid oedd 15% o gyflogwyr yn bodloni eu hymrwymiadau statudol.

 

 

Roedd yr adroddiad yn argymell y dylai’r camau gweithredu ganolbwyntio ar fynd i’r afael â stereoteipiau, ar wahanu galwedigaethol, ar sicrhau bod cyflogwyr a gweithwyr cyflogedig yn deall eu hymrwymiadau a’u hawliau statudol, ar sicrhau bod gofal plant fforddiadwy yn cael ei ddarparu a bod y menywod hynny a oedd bellaf oddi wrth gyflogaeth yn cael cymorth i gael gwaith (yn benodol menywod hŷn a’r rhai ag anabledd neu gyflyrau tymor hir).

 

4.

Rhaglen Gweithgarwch

 

 

Dosbarthodd yr Ysgrifennydd amserlen arfaethedig y cyfarfodydd a oedd yn darparu cynllun gwaith ar gyfer y Grŵp Trawsbleidiol o fis Hydref 2013 tan fis Chwefror 2016, yn seiliedig ar dri chyfarfod y flwyddyn. Cynigiwyd bod y materion uchod yn cael eu harchwilio’n fanwl drwy glywed profiadau menywod neu gyflogwyr unigol, ystyried gwaith ymchwil amrywiol gan bartneriaid allanol a thrwy ddod ag arbenigwyr i gefnogi’r Grŵp Trawsbleidiol wrth iddo ddatblygu argymhellion a chamau gweithredu a fyddai’n mynd i’r afael a’r rhwystrau sy’n atal menywod rhag cyrraedd eu potensial yn yr economi yng Nghymru.

 

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai’r Grŵp Trawsbleidiol yn cyfarfod amser cinio ddydd Mercher a gofynnodd a fyddai modd cynnwys dyddiadau pendant ar gyfer 2014 yn yr amserlen arfaethedig. Anogodd y Cadeirydd yr aelodau i anfon neges e-bost ati hi neu’r Ysgrifennydd os oeddent am gynnig meysydd ychwanegol i’w trafod neu newid blaenoriaethau’r drafodaeth.

COB

 

Cafwyd trafodaeth fer ynglŷn â phwnc y cyfarfod nesaf, Gwahanu ar sail rhyw a’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau a gwnaeth y sylwadau canlynol:

§    Nododd y Cadeirydd fod angen i gyflogwyr newid y diwylliant o wahaniaethu lle mae dynion yn ben os ydynt am recriwtio mwy o brentisiaid benywaidd.

§    Roedd Gyrfa Cymru yn teimlo bod angen ymyrryd yn gynharach yn addysg merched er mwyn newid eu dyheadau o ran gyrfa. Nid ydym wedi gweld y newid a ddymunwyd yn newisiadau gyrfa merched ac roedd cyfrifoldeb ar athrawon, cynghorwyr a chyflogwyr i chwalu’r stereoteipiau parhaus ar sail rhyw a gwneud pobl ifanc yn ymwybodol o’r dewis ehangaf o gyfleoedd sy’n agored iddynt.

§    Roedd y grŵp am wybod beth yw oedran merched pan yn dewis a beth sy’n dylanwadu ar ddewisiadau; teulu neu grwpiau cyfoedion. Penderfynwyd y byddai Chwarae Teg yn cyflwyno’r gwaith ymchwil diweddar yn y maes hwn yn y cyfarfod nesaf.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

COB

 

§    Penderfynwyd gofyn i Alison Parken gyflwyno gwaith ymchwil Cymru: Economi yn Ffynnu (WAVE) ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau sy’n cael ei gyhoeddi ym mis Hydref.

COB/AP

 

 

§    Adroddodd Chwarae Teg eu bod am ofyn i Techniquest roi cyflwyniad yn y sesiwn ym mis Chwefror gan fod ganddo ymyriadau arloesol ar gyfer cael mwy o ferched i ddilyn pynciau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM). 

 

 

§    Gofynnodd y Ffederasiwn Busnesau Bach a fyddai modd ailedrych ar waith ymchwil Chwarae Teg er mwyn gweld a oedd unrhyw gysylltiadau â statws economaidd-gymdeithasol ac agweddau traddodiadol ar waith.

COB

 

 

§    Mae’n amlwg bod diddordeb merched a bechgyn mewn pynciau STEM yn gyfartal a byddai gan y Grŵp Trawsbleidiol ddiddordeb mewn gwybod pam nad yw merched ifanc yn dilyn gyrfaoedd mewn pynciau STEM. Cytunodd y grŵp y byddai’n fwy defnyddiol ystyried y manylion, boed hynny mewn sectorau neu bynciau STEM, yn hytrach na chyffredinoli.

 

 

§    Tynnodd Eluned Parrott AC sylw’r aelodau at ddiffyg ystadegau ac ymchwil yn y gwahaniaeth rhwng y rhywiau mewn pynciau a gyrfaoedd STEM. Roedd angen gwybod beth sy’n llywio'r broses o ddewis pynciau a pham nad oes mwy o ferched yn parhau i ddilyn gwyddoniaeth a mathemateg ar lefel doethuriaeth neu ôl-ddoethuriaeth. 

 

 

§    Byddai Chwarae Teg yn ymchwilio i weld a fyddai modd i’r Grŵp Trawsbleidiol ar Wyddoniaeth a Thechnoleg helpu i ddarparu data o’r fath.

COB

 

 

§    Byddai Chwarae Teg yn dosbarthu eu papur ymchwil ar ddiffyg cynrychiolaeth menywod mewn sectorau anhraddodiadol.

COB

 

Gofynnwyd i’r aelodau roi unrhyw syniadau neu waith ymchwil newydd i’r Cadeirydd neu’r Ysgrifennydd ac y byddent yn cael eu cyflwyno wedyn i’r Grŵp Trawsbleidiol i’w trafod.

PAWB

5.

Cylch Gorchwyl ar gyfer y Grŵp Trawsbleidiol

 

 

Cymeradwywyd y Cylch Gorchwyl ar yr amod bod y materion canlynol yn cael eu cynnwys ymhlith y prif faterion i’w hymchwilio:

§  Menywod yn cychwyn busnesau

§  Bwlch cyflog rhwng y rhywiau

COB

 

Penderfynwyd y byddai’r rhaglen a’r cylch gorchwyl diwygiedig sydd i’w trafod yn cael eu rhoi ar dudalen we y Grŵp Trawsbleidiol ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol.

COB/VE

 

Dylid rhoi unrhyw sylwadau pellach ar Gylch Gorchwyl a Rhaglen Gyfarfodydd y Grŵp Gorchwyl i’r Ysgrifennydd.

PAWB

6.

Dyddiad Cyfarfodydd 2014

 

 

Ôl-nodyn:

Yn dilyn y cyfarfod, cynigiwyd y dyddiadau canlynol ar gyfer 2014:

 

 

Dydd Mercher, 5 Chwefror

Dydd Mercher, 4 Mehefin

Dydd Mercher, 8 Hydref

 

CC/COB/hr
24/10/13



TAFLEN WEITHREDU I’W HADOLYGU YN Y CYFARFOD NESAF

Cam Gweithredu

Pwy sy’n Gyfrifol

Dyddiad Gofynnol

Dyddiad Cyflawni

Cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai’r Grŵp Trawsbleidiol yn cyfarfod amser cinio ddydd Mercher a gofynnodd a fyddai modd cynnwys dyddiadau pendant ar gyfer 2014 yn yr amserlen arfaethedig.

COB

 

Cyflawni

Roedd y grŵp am wybod beth oedd oedran merched pan yn dewis a beth sy’n dylanwadu ar ddewisiadau; teulu neu grwpiau cyfoedion. Penderfynwyd y byddai Chwarae Teg yn cyflwyno’r gwaith ymchwil diweddar yn y maes hwn yn y cyfarfod nesaf.

COB

 

 

Penderfynwyd gofyn i Alison Parken gyflwyno gwaith ymchwil Cymru: Economi yn Ffynnu (WAVE) ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau sy’n cael ei gyhoeddi ym mis Hydref.

COB/AP

 

 

Gofynnodd y Ffederasiwn Busnesau Bach a fyddai modd ailedrych ar waith ymchwil Chwarae Teg er mwyn gweld a oedd unrhyw gysylltiadau â statws economaidd-gymdeithasol ac agweddau traddodiadol ar waith.

COB

 

 

Byddai Chwarae Teg yn ymchwilio i weld a fyddai modd i’r Grŵp Trawsbleidiol ar Wyddoniaeth a Thechnoleg helpu i ddarparu data o’r fath.

COB

 

 

Byddai Chwarae Teg yn dosbarthu eu papur ymchwil ar ddiffyg cynrychiolaeth menywod mewn sectorau anhraddodiadol.

COB

 

 

Gofynnwyd i’r aelodau roi unrhyw syniadau neu waith ymchwil newydd i’r Cadeirydd neu’r Ysgrifennydd ac y byddent yn cael eu cyflwyno wedyn i’r Grŵp Trawsbleidiol i’w trafod.

ALL

 

 

Cymeradwywyd y Cylch Gorchwyl ar yr amod bod y materion canlynol yn cael eu cynnwys ymhlith y prif faterion i’w hymchwilio:

§  Menywod yn cychwyn busnesau

§  Bwlch cyflog rhwng y rhywiau

COB

 

 

Penderfynwyd y byddai’r rhaglen a’r cylch gorchwyl diwygiedig sydd i’w trafod yn cael eu rhoi ar dudalen we y Grŵp Trawsbleidiol ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol.

COB/VE

 

 

Dylid rhoi unrhyw sylwadau pellach ar Gylch Gorchwyl a Rhaglen Gyfarfodydd y Grŵp Gorchwyl i’r Ysgrifennydd.

ALL